Yr Wyddfa gyda’r Wawr 2025
Ymunwch â ni ar daith i gefnogwyr y Samariaid yn unig, a rhowch gynnig ar fynydd uchaf Cymru a Lloegr gyda’r wawr!
How Samaritans will support you
- Diweddariadau rheolaidd drwy e-bost a chefnogaeth gan Dîm Digwyddiadau Samaritans
- Derbyn deunyddiau codi arian a chodi ymwybyddiaeth
- Eich crys Samaritans eich hun i’w wisgo â balchder yn ystod eich taith
- Swper pan fyddwch yn cyrraedd ar y noson a brecwast ar ôl eich taith (yn cynnwys diodydd poeth)
- Byrbrydau am ddim (bariau grawnfwyd, ffrwyth ac ati)
- Diod â swigod i ddathlu ar ôl gorffen
Why Samaritans need your support
Gwyddom fod bywyd yn gallu bod yn eithriadol o anodd ar adegau. Diolch i ymroddiad mwy na 20,000 o wirfoddolwyr, gall y Samariaid fod yno i unrhyw un, beth bynnag maen nhw’n mynd trwyddo, a phryd bynnag maen nhw’n cael trafferth i ymdopi. Rydym hefyd wrth galon cymunedau lleol gan weithio gydag ysgolion, gweithleoedd, rheilffyrdd, carchardai ac ysbytai yn cynnig hyfforddiant a chymorth, yn atal hunanladdiad ac yn helpu pobl i weddnewid eu bywydau.
Ni fyddai ein gwaith sy’n achub bywydau yn bosibl heb haelioni eithriadol y rhai sy’n cymryd rhan yn ein digwyddiadau.
More information
Oes gennych chi gwestiwn am y digwyddiad hwn? Cysylltwch â’n Tîm Digwyddiadau yn community&[email protected] a byddwn yn ateb cyn gynted ag y gallwn.
Ynghylch yr Wyddfa gyda’r Wawr
Y funud hon, mae pobl yn cael trafferth i ymdopi. Helpwch roi rhywle iddynt droi pan mae arnynt ei angen mwyaf. Ymunwch â ni ar daith i gefnogwyr Samaritans yn unig a rhowch gynnig ar yr Wyddfa gyda’r Wawr.
Bydd cerdded i fyny’r Wyddfa (1,085m) yng ngholau tortshis a’r lleuad yn rhoi i chi ymdeimlad o lwyddiant ysgubol. Bydd gwylio’r haul yn codi dros Barc Cenedlaethol Eryri yn atgof i’w drysori am byth! Ar ein taith i lawr, byddwch yn gweld golygfeydd godidog y mynyddoedd mawr, cyn dathlu dros frecwast blasus.