Chapter 9: Ymuno â ni

Yn ystod yr awr nesaf, bydd y Samariaid yn ymateb i bron 400 o alwadau am help.

Y tu ôl i’r llenni, byddwn yn gweithio bob awr o’r dydd a’r nos i helpu pobl i deimlo’n fwy gobeithiol am y dyfodol. Byddwn yn ceisio cael ein gweld gan bawb a sicrhau bod unrhyw un sydd ag angen cymorth yn ymddiried ynom. Byddwn yn gwthio am newid er mwyn atal hunanladdiad a sicrhau ein bod yn aros yn addas i’r dyfodol ac ymhen pum mlynedd y gallwn ateb pob un person sydd ag angen cymorth yn y ffordd sy’n fwyaf buddiol iddo ef neu hi.

Wrth gwrs, ni ellir gwireddu dim o’r cynlluniau hyn oni fydd unigolion a sefydliadau yn parhau i ddewis ein cefnogi ni, boed trwy ymgyrchu, rhannu eu profiadau neu wirfoddoli, yn ogystal â chodi arian neu roi arian, ac rydym ni mor ddiolchgar i bawb sy’n gwneud hynny, hyd yn oed yn ystod yr adegau anoddaf.

Mae arnom angen eich help chi. Dyma rai o’r ffyrdd y gallwch ymuno â ni i wneud yn siŵr bod llai o fywydau’n cael eu colli i hunanladdiad:

  • Rhoi arian nawr a’n helpu ni i fod yno i rywun sy’n cael trafferth i ymdopi.
  • Cofrestru ar gyfer digwyddiad a chodi arian i’n helpu ni i ateb yr alwad nesaf am help.
  • Gadael rhodd yn eich ewyllys i’n helpu ni yn y dyfodol.
  • Cael gwybod am wirfoddoli neu weithio i’r Samariaid, gan gynnwys helpu i redeg ein llinell gymorth Gymraeg.
  • Rhannu eich profiad personol o gyrraedd pwynt argyfwng neu golli rhywun i hunanladdiad, i helpu i lywio ein gwaith yng Nghymru.
  • Ein helpu ni i greu newid yng Nghymru, trwy ddod yn ymgyrchydd i’r Samariaid.

Need support? Call 116 123 to speak to a Samaritan or

view other ways to get in touch