Chapter 8: Blaenoriaeth 5: Cynaliadwyedd

5. Meithrin perthnasoedd ystyrlon gyda’n cefnogwyr er mwyn sicrhau ein bod yn gynaliadwy

Ein her

Er mwyn aros yn addas ar gyfer y dyfodol, mae ar y Samariaid angen mwy o gefnogwyr hirdymor a fydd yn rhan o’r daith gyda ni.

Ein huchelgais

Sicrhau ein cynaliadwyedd hirdymor trwy sicrhau’r gefnogaeth mae ei hangen i’n cadw ni’n gryf a chymryd camau i wneud yn siŵr bod ein gweithgareddau a’n sefydliad yn addas ar gyfer y dyfodol.

Byddwn yn creu ffyrdd i’r bobl a’r sefydliadau sy’n ein cefnogi ni ychwanegu eu hegni a’u profiad at ein gwaith fel y gallwn gyda’n gilydd fod yno i’r rhai sydd ein hangen ni am flynyddoedd i ddod.

Byddwn yn gweithio fesul cam tuag at y blaenoriaethau uchod, dros gyfnod o bum mlynedd, sy’n golygu na fydd popeth yn digwydd ar unwaith. Gan mai strategaeth bum mlynedd yw hon, bydd ein blaenoriaethau yn ddigyfnewid, ond byddwn yn datblygu cynlluniau mwy manwl ynghylch sut y byddwn yn eu cyflawni yn ystod y flwyddyn gyntaf, wrth inni weithio i gynyddu capasiti a medrusrwydd, gan wneud yn siŵr bod gennym sylfaen gref i dyfu arni.

Byddwn yn:

  • Datblygu a gweithredu’r strategaeth codi arian i Gymru ymhellach.
  • Gweithio gyda chydweithwyr i sicrhau bod ymgyrchoedd codi arian i Gymru yn berthnasol ac yn effeithiol.
  • Dangos effeithiolrwydd gwaith y Samariaid yng Nghymru i’n cefnogwyr a’n hymgyrchoedd, gan gynnwys trwy lansio adroddiad effaith.
  • Datblygu a chefnogi ffyrdd newydd i gefnogwyr sicrhau y clywir eu lleisiau trwy ein hymgyrchoedd, gan gynnwys lleisiau’r rhai sydd â phrofiad byw.

Need support? Call 116 123 to speak to a Samaritan or

view other ways to get in touch