Download document: Lawrlwythwch cynllun cyflawni strategol Samariaid Cymru
1.1 mb - PDF
Rydym yn rhannu ein strategaeth ar adeg o ansicrwydd parhaus. Rydym wedi bod trwy bandemig sydd wedi effeithio arnom ni mewn cynifer o ffyrdd, ac un sydd wedi pwysleisio ac ehangu anghydraddoldebau. Gall unrhyw un, ar unrhyw adeg, fod ag angen cymorth emosiynol. Rydym yn wynebu llawer o heriau fel unigolion ac fel cymdeithas; gan gynnwys newid hinsawdd, gwrthdaro byd-eang, effeithiau negyddol cyfryngau digidol a chymdeithasol a’r angen am ddiogelwch ar lein, costau byw cynyddol, a’r rheidrwydd i fynd i’r afael ag allgau a gwahaniaethu. Mae effeithiau parhaus y pandemig yn debygol o gynyddu’r ffactorau risg ar gyfer iechyd meddwl gwael a hunanladdiad. Mae’n bwysig iawn felly ein bod yn gweithredu ar bopeth a wyddom ynghylch sut i liniaru’r risgiau hynny. Mae ein diben, sef bod yno i bobl ar adegau o angen ac argyfwng, yn awr yn fwy tyngedfennol nag erioed o’r blaen.
Rydym yn falch iawn o’n gwirfoddolwyr ymroddedig sy’n darparu ei gwasanaeth, ac a barhaodd â’r gwaith hollbwysig hwn drwy gydol y pandemig. Rydym wrth galon cymunedau lleol ledled Cymru trwy ein 10 lleoliad gwasanaeth. Rydym yn gweithio gydag ysgolion, gweithleoedd, rheilffyrdd, carchardai ac ysbytai i ddarparu hyfforddiant, rhoi cymorth a helpu pobl i weddnewid eu bywydau. Rydym yn adeiladu ar ein prosiect arloesi yng Nghymru i gynyddu ein hamrywiaeth a’n cynwysoldeb. Byddwn yn ymdrechu i wella’n sylweddol ein dealltwriaeth o’r heriau a wynebir gan gymunedau sydd wedi’u hymyleiddio, yn arbennig mewn perthynas â ffactorau risg ar gyfer hunanladdiad a hunan-niwed. Byddwn yn gweithio i fod yn fwy teg yn ein gwasanaethau, gan wneud yn siŵr ein bod yn ymateb i anghenion pobl mewn ffordd sy’n berthnasol ac yn ystyrlon iddyn nhw a’u hamgylchiadau. Byddwn yn mynd i’r afael â rhwystrau o ran cael cymorth, gan gynnwys gwella mynediad at ein gwasanaethau ein hunain.
Gwyddom fod achosion hunanladdiad yn gymhleth, ac er mwyn ei atal mae arnom angen i lawer o sefydliadau ac unigolion weithio gyda’i gilydd. Rydym eisoes yn partneru ag amrywiaeth fawr o sefydliadau, gan gynnwys y rheilffyrdd, y gwasanaeth carchardai a’r gwasanaeth prawf, a gyda chyrff trydydd sector a chyrff cyhoeddus. Byddwn yn chwilio am enghreifftiau eraill o gydweithredu dros y blynyddoedd i ddod er mwyn cynyddu ein cyrhaeddiad a’n perthnasedd i’r rhai y mae arnynt angen ein cymorth.
Rydym yn fwyaf adnabyddus am gynnig cysylltiad dynol i’r rhai sy’n cael trafferth i ymdopi. Mae gennym rôl allweddol i’w chwarae hefyd o ran dylanwadu ar ymwybyddiaeth, polisi ac arferion yn y gymdeithas ehangach. Yng Nghymru rydym wedi cyfrannu at ac wedi cefnogi strategaeth hunanladdiad a hunan-niwed Cymru Siarad â fi 2. Rydym hefyd wedi cynhyrchu adroddiadau ac argymhellion ar faterion fel hunan-niwed ac anfantais, ac rydym wedi hybu pwysigrwydd tosturi wrth ymateb i drallod. Yn ystod y pum mlynedd nesaf byddwn yn ceisio ymaddasu, ehangu a gwella ein gwasanaeth gwrando 24-awr unigryw dros y ffôn, sgwrsio ar-lein, e-bost, llythyr, wyneb yn wyneb, a thrwy ein gwasanaeth Cymraeg. Byddwn hefyd yn cynyddu ein gwaith ymgyrchu a lobïo, gan helpu ein canghennau i ddylanwadu ar benderfyniadau lleol. Byddwn yn gwneud mwy i gynnig cymorth, offer, adnoddau a gwasanaethau ar lein sy’n helpu pobl i edrych ar ôl eu hiechyd a llesiant emosiynol eu hunain, ac ar yr un pryd eu helpu i ddeall mwy am hunanladdiad a sut i gynorthwyo eraill. Byddwn yn parhau i annog, hyrwyddo a dathlu’r eiliadau hynny o gysylltu rhwng pobl sy’n gallu diogelu ac achub bywydau.
I fynd i’r afael ag achosion hunanladdiad a hunan-niwed rhaid inni weithredu’n fwy ystyrlon i herio gwahaniaethu ac anghyfiawnder, gan weithio law yn llaw â phobl y mae’r ddau beth yn effeithio arnynt. Mae’n hollbwysig inni gymryd camau fel cenedl i ganfod a mynd i’r afael â phenderfynyddion cymdeithasol iechyd meddwl gwael. Mae hunanladdiad yn fater o bwys o ran iechyd y cyhoedd, ond mae hefyd yn fater o bwys o ran anghydraddoldeb.
Rydym wedi gweithio’n agos gyda’n gwirfoddolwyr, staff, cefnogwyr a sefydliadau partner, yn ogystal â phobl sydd wedi cael meddyliau hunanladdol neu y mae hunanladdiad wedi effeithio arnynt, i lunio strategaeth sy’n adeiladu ar bopeth yr ydym wedi’i ddysgu dros y blynyddoedd. Yng Nghymru, rydym yn adeiladu ar sylfeini cadarn presenoldeb cenedlaethol datblygedig, hanes o gydnabyddiaeth i’n gwasanaeth, ein canghennau a gweithgarwch lleol, a dylanwad ar bolisi ac ymchwil.
Fe’ch gwahoddwn i ymuno â ni ym mhennod nesaf ein taith wrth inni barhau i ymateb i fyd sy’n newid, ac wrth inni arloesi er mwyn cadw i fyny â galwadau a chyfleoedd newydd, ac wrth inni sicrhau bod cymorth yno i bobl pan fydd arnynt ei angen fwyaf. Mae ein dealltwriaeth o rôl hollbwysig gwrando, tosturi a chysylltiad dynol yn dylanwadu ar bopeth a wnawn a bydd yn ein harwain wrth inni ymateb i’r heriau sydd o’n blaenau.
1.1 mb - PDF
Dylid darllen Cynllun Cyflawni Strategol Samariaid Cymru 2022–24 ochr yn ochr â Strategaeth y Samariaid 2022–27 sy’n nodi’r cyfeiriad yr ydym yn mynd iddo ar gyfer ein sefydliad ar draws y pum awdurdodaeth yr ydym yn gweithredu ynddynt: Cymru, Gogledd Iwerddon, Iwerddon, Lloegr a’r Alban. Mae’r amcanion cyflawni dwy-flynedd a nodir yn y ddogfen hon yn benodol i Gymru a chânt eu cyflawni ochr yn ochr â datblygiadau ehangach ar lefel y DU a Gweriniaeth Iwerddon i gyrraedd ein nod, sef bod llai o bobl yn marw trwy hunanladdiad.