Blaenoriaeth 2: Cyrhaeddiad
2. Cyrraedd mwy o bobl i roi 2. gwybod iddynt ein bod ni yma
Ein her
Nid ydym yn ddigon da eto am gyrraedd pobl y mae eu hamgylchiadau’n golygu y gall fod ganddynt risg uwch o hunanladdiad, fel y rhai sy’n byw mewn amddifadedd neu sydd wedi’u hymyleiddio.
Ein huchelgais
Bod yn fwy gweladwy a pherthnasol, yn enwedig i ystod fwy amrywiol o bobl a chymunedau, fel bod y rhai y gall fod arnynt ein hangen ni fwyaf yn gallu ein gweld ni, ymddiried ynom a gwybod ein bod ni yma iddynt.
Byddwn yn mynd allan i ystod fwy amrywiol o gymunedau fel bod y bobl y mae arnynt ein hangen ni fwyaf yn ein gweld ni, yn ymddiried ynom ac yn gwybod ein bod ni yma iddynt. Byddwn yn gwneud hyn gyda’r bobl, sefydliadau a diwydiannau mwyaf perthnasol, yn ogystal â chryfhau ein gwaith presennol â chymunedau lleol.
Byddwn yn:
- Hyrwyddo ymateb tosturiol i drallod, gan ddatblygu ac adeiladu ar yr offer rydym wedi’u creu.
- Hyrwyddo ein gwasanaeth a phwysigrwydd ceisio help trwy ymgyrchoedd, gan ganolbwyntio’n enwedig ar grwpiau ac unigolion blaenoriaethol, gan gynnwys y rhai sy’n dioddef anfantais a’r rhai sy’n hunan-niweidio.
- Cwblhau a gweithredu, a gwerthuso canlyniadau, yr adolygiad o’n Cynllun Iaith Gymraeg.
- Cefnogi ymgysylltu lleol â fforymau atal hunanladdiad a hunan-niwed rhanbarthol a lleol fel bod gan y Samariaid bresenoldeb a chyfraniad credadwy, dylanwadol a chyson.
- Cynyddu cyrhaeddiad y Samariaid i gymunedau sydd ein hangen ni fwyaf.
- Cefnogi’r partneriaethau â’r carchardai a’r rheilffyrdd.
- Gweithio gyda phartneriaid i liniaru risgiau ar safleoedd sy’n destun pryder.
- Cefnogi trefniadau cydweithredu lleol a rhanbarthol, lle byddant yn cynorthwyo’r bobl a gefnogwn.
- Cynyddu hygyrchedd ein hadnoddau trallod emosiynol a chysylltiadau â ffynonellau help ehangach, gan gynnwys trwy’r adnoddau a geir ar ein gwefan.