Chapter 4: Blaenoriaeth 1: Mynediad

1. Gwneud yn siŵr bod unrhyw 1. un sydd ein hangen yn gallu cyrraedd ein cymorth

Ein her

Ni allwn fodloni’r galw am wasanaethau’r Samariaid bob amser ac mae perygl bod pobl sy’n ceisio cysylltu â ni yn methu mynd drwodd neu’n methu cael yr ymateb mae arnynt ei angen.

Ein huchelgais

Bydd pobl yn gallu cyrraedd ein cymorth pryd bynnag mae arnynt ei angen a mynd drwodd atom ni mewn ffordd sy’n gweithio iddyn nhw.

Byddwn yn gweithio’n galed i sicrhau bod pobl sy’n ceisio cael ein cymorth yn gallu ein cyrraedd ni pryd a sut mae angen iddynt wneud, trwy hyfforddi mwy o wirfoddolwyr a gweithio’n arloesol ar ffyrdd newydd o gysylltu â ni, fel sgwrsio ar-lein, ynghyd ag adolygu a gwella’n barhaus ein gwasanaethau ffôn, e-bost a gwrando personol.

Byddwn yn:

  • Gweithio gyda changhennau i hyrwyddo a chefnogi dulliau amrywiol o recriwtio a chadw gwirfoddolwyr, gan gynorthwyo canghennau i estyn allan i’w cymunedau ac adeiladu ar y prosiect Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.
  • Cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o natur a pherthnasedd gwasanaethau’r Samariaid i’r rhai sy’n cael trafferth i ymdopi, ac o’n perthnasedd i’r cymunedau ac unigolion a wasanaethwn.
  • Cefnogi ymagweddau newydd at rolau gwirfoddolwyr a mynd i’r afael â phroblemau o ran capasiti i fodloni’r galwadau ar ein gwasanaeth.
  • Hyrwyddo a chynyddu’r ddealltwriaeth o’n gwasanaeth a’n harbenigedd ymysg sefydliadau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, gan alluogi trefniadau cydweithredu mwy effeithiol.

Need support? Call 116 123 to speak to a Samaritan or

view other ways to get in touch