Blaenoriaeth 3: Effaith
3. Sicrhau y clywir ein llais ar 3. lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol er mwyn sicrhau’r effaith fwyaf posibl
Ein her
Wrth i benderfyniadau gael eu gwneud fwyfwy ar lefel leol a rhanbarthol sy’n effeithio ar waith atal hunanladdiad, nid oes gennym yr adnoddau a’r systemau i sicrhau newid effeithiol ar lefelau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol.
Ein huchelgais
Gwneud atal hunanladdiad yn flaenoriaeth yn genedlaethol, yn rhanbarthol ac yn lleol i lywodraethau, gwasanaethau cyhoeddus a busnesau, fel bod llai o bobl yn marw trwy hunanladdiad.
Byddwn yn gwthio’n galetach i wneud atal hunanladdiad yn flaenoriaeth yn genedlaethol, yn rhanbarthol ac yn lleol ledled y DU a Gweriniaeth Iwerddon, gan gydweithio i wneud newidiadau sy’n achub bywydau. Byddwn yn gwrando ar bobl y mae hunanladdiad neu feddyliau hunanladdol wedi effeithio arnynt ac yn nodi meysydd allweddol lle mae angen mwy o waith ymchwil, er mwyn ein helpu ni i sicrhau’r newid mwyaf.
Byddwn yn:
- Chwarae rhan arweiniol yn y gwaith o weithredu strategaeth atal hunanladdiad a hunanniwed Cymru, Siarad â fi 2, ac yn y gwaith o ddatblygu ei holynydd.
- Cefnogi’r Grŵp Trawsbleidiol ar Atal Hunanladdiad yn Senedd Cymru.
- Dylanwadu ar bolisi ac ymarfer ynghylch atal hunanladdiad yng Nghymru yn rhagweithiol trwy ymgysylltu â gwleidyddion, gwneuthurwyr polisi ac ymarferwyr, adroddiadau, byrddau crwn, arolygon, briffiadau ac ymatebion i ymgynghoriadau.
- Dylanwadu ar weithredu ar faterion blaenoriaethol fel hunan-niwed, grwpiau sy’n wynebu risg, lliniaru tlodi, pobl ifanc ac ymateb i argyfyngau.
- Cynyddu’r ddealltwriaeth o waith atal hunanladdiad trwy hyrwyddo ein canllawiau i’r cyfryngau, gwaith gyda’r cyfryngau, defnyddio dirnadaeth o wasanaeth y Samariaid a chynyddu’r defnydd o leisiau profiad byw.
- Ceisio cydweithredu â sefydliadau eraill lle bydd hyn yn ychwanegu gwerth at ein gwaith.