Chapter 7: Blaenoriaeth 4: Capsiti

4. ICynyddu ein capasiti i fod yn un tîm o bobl amrywiol, fedrus a werthfawrogir

Ein her

Mae effaith y Samariaid yn cael ei gyfyngu gan ddiffyg cynrychiolaeth amrywiol ymysg ein pobl, gan ein problemau o ran capasiti a’r pwysau mae rhai rolau o danynt, a gan strwythur presennol ein sefydliad.

Ein huchelgais

Bodloni’r galw am ein gwasanaethau trwy recriwtio mwy o bobl, rhoi’r gefnogaeth orau iddynt fel eu bod yn aros gyda ni am fwy o amser a gweithio’n effeithiol gyda’n gilydd fel un tîm Samariaid.

Byddwn yn ymdrechu i fod yn fwy hyblyg a chefnogol er mwyn i amrywiaeth fwy o bobl allu ffitio gwirfoddoli i mewn i’w bywydau ac er mwyn inni adlewyrchu’n llawn y cymunedau a wasanaethwn. Byddwn yn cefnogi datblygiad personol, a fydd yn annog ac yn ysbrydoli gwirfoddolwyr i ymrwymo inni am gyhyd ag sy’n bosibl.

Byddwn yn:

  • Sicrhau bod gan staff Samariaid Cymru a Phwyllgor y Bwrdd yr ehangder arbenigedd a’r medrusrwydd sefydliadol i wireddu’r strategaeth.
  • Cefnogi a hyrwyddo dealltwriaeth o holl weithgareddau’r Samariaid yng Nghymru, gan rannu dysgu a chefnogi cyfathrebu effeithiol.
  • Cefnogi’r gwaith sefydliadol ehangach i flaenoriaethu cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan adeiladu ar waith y cynllun peilot Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant gyda changhennau yng Nghymru.
  • Cydweithredu gyda chydweithwyr, gan gynorthwyo â’r gwaith o ganfod a chyflawni gwaith traws-awdurdodaethol allweddol.

Need support? Call 116 123 to speak to a Samaritan or

view other ways to get in touch