Mae Samariaid Caerdydd yn gwahodd cefnogwyr i redeg, loncian neu gerdded marathon yn eu hamser eu hunain ac ar eu cyflymdra eu hunain i godi arian i’w cangen
Mae Samariaid Caerdydd wedi lansio ‘Samarathon’, sef rhith farathon, fel menter codi arian gyffrous sy’n annog cefnogwyr i redeg, loncian neu gerdded pellter marathon yn eu hamser eu hunain yn ystod mis Gorffennaf.
Mae Samariaid Caerdydd eisiau ysgogi mwy o bobl i fynd ati i fod yn egnïol er mwyn gwella eu lles meddyliol, yn hytrach na chanolbwyntio ar un her sy’n rhoi prawf ar wytnwch corfforol ac sy’n gofyn i’r rhai sy’n cymryd rhan redeg 26.2 milltir yn ddi-dor. Dyna pam y mae’r ‘Samarathon’ yn gwahodd trigolion Caerdydd i gymryd rhan yn yr her hon ar eu cyflymdra eu hunain.
Dywedodd Marcie, Cyfarwyddwr Cangen Samariaid Caerdydd: “Er na wyddom am ba hyd y byddwn yn cadw pellter cymdeithasol ac yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ynghylch ymarfer corff dyddiol, mae hon yn her y gallwch ei chyflawni ar eich pen eich hun, gydag aelodau o’ch aelwyd, neu drwy rhith-ymuno â ffrindiau, teulu a chydweithwyr, gan gefnogi cynnydd eich gilydd lle bynnag yr ydych chi.
“Yn fwy nag erioed, gwyddom fod mynd ati i fod yn egnïol yn gwneud gwyrthiau i’ch lles meddyliol. Mae’r Samarathon yn nod gwych i ysgogi pobl i fynd ar eu cyflymdra eu hunain. Beth bynnag yw’ch oed neu’ch gallu, mae’n her i’w chyflawni yn eich amser eich hun, ar eich cyflymdra eich hun, ble bynnag rydych chi’n byw neu’n gweithio. Mae’r fenter codi arian hon yn canolbwyntio ar deimlo’n dda. Gobeithiwn y bydd ein cefnogwyr yn annog eu ffrindiau a’u teuluoedd o bob oed i gymryd rhan, gan ei bod yn her gyflawnadwy y gallan nhw i gyd ei rhannu a’i mwynhau.”
Yn yr hinsawdd sydd ohoni, mae arnom wir angen cefnogaeth barhaus y cyhoedd. Oherwydd bod llawer o’n digwyddiadau codi arian wedi cael eu canslo, rydym ni’n wynebu colled ariannol sylweddol, felly rydym ni’n annog y cyhoedd i’n helpu i sicrhau ein bod yn parhau i fod yma i unrhyw un mae arno angen cymorth.
Marcie, Cyfarwyddwr Cangen Samariaid Caerdydd
“Yn yr hinsawdd sydd ohoni, mae arnom wir angen cefnogaeth barhaus y cyhoedd. Oherwydd bod llawer o’n digwyddiadau codi arian wedi cael eu canslo, rydym ni’n wynebu colled ariannol sylweddol, felly rydym ni’n annog y cyhoedd i’n helpu i sicrhau ein bod yn parhau i fod yma i unrhyw un mae arno angen cymorth. Gallwch gofrestru am ddim ar gyfer y Samarathon, ond byddem wrth ein bodd pe bai pawb yn codi faint bynnag o arian a allan nhw i gefnogi’r gangen leol o’r Samariaid a’n helpu i fod yno i unrhyw un sy’n cael trafferth i ymdopi.”
Gall ein cefnogwyr gofrestru am ddim ar www.samaritans.org/samarathon er mwyn cymryd rhan yn yr her sy’n cael ei lansio diwrnodau cyn dechrau Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl. ‘Caredigrwydd’ yw’r thema eleni, ac mae’r Samariaid yn galw ar bobl i fod yn garedig iddyn nhw eu hunain, i fynd ati i fod yn egnïol ac i roi hwb i’w lles, yn ogystal â bod yn ddigon caredig i godi arian gwerthfawr er mwyn sicrhau y gall y Samariaid ddarparu gwasanaeth hanfodol.